Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2015
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Menter
1. Ar 13 Hydref 2015, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd Y Pwyllgor Menter a Busnes i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 26 Tachwedd 2015.